Carus | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Numerius Carus c. 222, 224 Narbonne |
Bu farw | 283 Mesopotamia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, Praetorian prefect |
Priod | Unknown |
Plant | Carinus, Numerian, Paulina |
Marcus Aurelius Carus (c. 222 – c. 283) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 282 a 283.
Credir i Carus gael ei eni yn Narbona (Iliria), ond addysgwyd ef yn Rhufain. Daeth yn aelod o'r Senedd a phenodwyd ef yn bennaeth Gard y Praetoriwm gan yr ymerawdwr Probus. Pan lofruddiwyd Probus yn Sirmium, cyhoeddwyd Carus yn ymerawdwr gan ei filwyr. Cyhuddwyd Carus o fod a rhan yn y cynllwyn i lofruddio Probus, ond nid oes sicrwydd am hyn.
Ymddengys na ddychwelodd Carus i Rufain pan dderbyniodd y Senedd ef fel ymerawdwr. Rhoddodd y teitl "Cesar" i'w ddau fab, Carinus a Numerian, a rhoddwyd gofal y rhan orllewinol o'r ymerodraeth i Carinus tra aeth yr ymerawdwr a Numerian ar ymgyrch yn erbyn y Persiaid oedd wedi ei chynllunio gan Probus. Wedi gorchfygu'r Sarmatiaid ar lannau Afon Donaw, aeth Carus yn ei flaen trwy Thracia ag Asia Leiaf a choncrodd Mesopotamia, gan groesi Afon Tigris.
Ynghanol ei fuddugoliaethau, bu Carus farw yn sydyn. Mae ansicrwydd am achos ei farwolaeth, gyda rhai ffynonellau yn ei phriodoli i wahanol glefydau. Yn ôl ffynonellau eraill llofruddiwyd ef gan ei filwyr ei hun ar anogaeth Arrius Aper, pennaeth Gard y Praetoriwm, oedd yn amharod i fynd ymlaen a'r ymgyrch yn erbyn Persia. Dilynwyd ef fel ymerawdwr gan ei ddau fab.
Rhagflaenydd: Probus |
Ymerawdwr Rhufain 282 – 283 |
Olynydd: Carinus a Numerian |